Mae Grŵp Boom Cymru, sydd erbyn hyn yn rhan o ITV Studios, yn gyfuniad o wahanol gwmnïau a sefydlwyd dros y blynyddoedd i ymateb i ofynion S4C.  Ein busnes yw creu cynnwys mewn gwahanol feysydd i wahanol ddarlledwyr a'n prif gwsmer yw S4C.  Rydym hefyd yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y BBC.

Mae pencadlys Boom Cymru wedi ei leoli yn adeilad y Gloworks, ym Mae Caerdydd, ac mae Adran Blant y cwmni yn gweithredu o’i stiwdio yn Heol Penarth, Caerdydd.

Yr ydym yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys ar gyfer S4C – Gwasanaethau plant Cyw a Stwnsh; Sianel Pump ar y rhwydweithiau cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc; digwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd; Dal Ati ar gyfer Dysgwyr; rhaglenni adloniant a chomedi; cyfresi drama fel 35 Diwrnod; rhaglenni dogfen ac adloniant ffeithiol/nodwedd.

Mae adrannau eraill y Grŵp, sydd hefyd wedi eu lleoli yn y Gloworks, yn cynnwys Boomerang, sy'n cynhyrchu rhaglenni Saesneg ar gyfer Channel 4, Five, ITV a rhwydweithiau y tu hwnt i’r DU; Bait – cwmni graffeg ac animeiddio; a chwmni adnoddau Gorilla sy'n gwasanaethu nifer o wahanol gynhyrchwyr ledled Cymru a’r DU.  Mae gweithgareddau’r adrannau hyn yn rhoi cyfleoedd i'n staff talentog i ddatblygu eu sgiliau ar wahanol gynyrchiadau ac i  fesur eu hunain yn barhaus yn erbyn safonau cynhyrchu ar gyfer y sianeli rhwydwaith.

Dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r sialens i'w gyllid, rydym ni a chynhyrchwyr eraill wedi cydweithio'n agos mewn partneriaeth gyda swyddogion S4C i sefydlogi'r diwydiant a sicrhau  gwerth am arian wrth ddal at y safonau uchaf ar gyfer gwylwyr, ac ymdrechu i hyfforddi a chadw'r talentau gorau yng Nghymru.  Credwn fod y bartneriaeth agored hon rhwng y cynhyrchwyr a’r corff ariannu a chomisiynu yn allweddol i S4C yn y dyfodol.

Creu'r amgylchiadau i bobl dalentog i ffynnu yw cyfraniad mawr S4C o'r cychwyn ac mae angen sicrhau fod hynny'n parhau i'r dyfodol.  Mae'r sialens o wynebu'r newidiadau pellach mewn arferion gwylio a chyfathrebu bydd yn digwydd dros y degawd nesaf yn mynnu fod S4C wedi ei arfogi i ymateb. Mae hyn yn golygu:

·         ehangu cylch gwaith S4C yn statudol i roi iddo'r hyblygrwydd i ymateb yn gyflym ac yn greadigol i newid yn yr hinsawdd creu a chyfleu cynnwys;

·         dull ariannu sy'n rhoi sicrwydd a gwelededd i S4C a’i rhanddeiliaid; 

·         rhyddid ac annibyniaeth olygyddol, ac 

·         annibyniaeth i weithredu'n entrepreneuraidd, ac i ffrwyth gweithredoedd masnachol gael eu cyfeirio at bwrpas cryfhau’r sefydliad.

Mae dyfodol a phwrpas S4C ynghlwm wrth yr iaith Gymraeg; oherwydd hyn mae angen sefydlu perthynas ffurfiol  gyda'r Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn chwarae rhan allweddol yn nod y llywodraeth o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. 

Nid oes gennym farn benodol ar sut i gyflawni hyn, ond dylid ei ddiffinio o fewn cylch gwaith S4C mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau fod iddo flaenoriaeth ym mhenderfyniadau S4C.

Mae'n bwysig hefyd fod S4C yn darlledu a dosbarthu cynnwys Cymraeg y tu hwnt i ffiniau Cymru i ddiwallu anghenion y ‘diaspora’ Cymraeg.  Bellach, mae 45% o gynulleidfa S4C yn gwylio cynnwys y sianel y tu allan i Gymru.

Mewn cenedl fach, gydag iaith leiafrifol, mae'n hawdd anghofio fod yr arc o farn a diddordeb yr un mor eang â chenedloedd ac ieithoedd mwy eang eu defnydd.  Mae adlewyrchu’r blwraliaeth hwnnw ar draws y cyfryngau yn bwysig.  Ni ddylai Cymry Cymraeg dderbyn gwasanaeth sy’n eilradd i wasanaethau darlledwyr Prydeinig eraill.  Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i dderbyn a mwynhau cynnwys o safonau cyfartal â’r hyn a ddarlledir ac a ddosbarthir yn Saesneg.  Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth mewn safonau oherwydd bod S4C yn comisiynu cynnwys mewn iaith leiafrifol. 

Mae unrhyw fenter yn y diwydiannau creadigol yn dibynnu ar dalentau'r bobl. Yr ydym yn credu'n gryf mewn trefniant sy'n pwysleisio'r bartneriaeth sydd ei hangen rhwng y gwahanol gyrff i gynnal, cefnogi a hyrwyddo'r dalent honno drwy gyfleoedd a hyfforddiant.  

Mae Boom Cymru yn awyddus i chwarae rhan yn wynebu sialensiau'r dyfodol mewn partneriaeth gyda S4C.

Ymateb i gwestiynau penodol:

Beth fyddai'n cael ei gyfrif yn gyllid digonol ar gyfer y sianel? Er enghraifft, pwy ddylai ddarparu'r cyllid, a sut y dylid ei gyfrifo - a ddylid cael fformiwla ar ei gyfer? Sut y dylid cefnogi hyn drwy refeniw wedi'i gasglu gan S4C ei hun?

Mae penderfynu ar gyllid digonol yn dibynnu ar gylch gwaith S4C ac nid yw’n synhwyrol pennu swm cyn penderfynu a chraffu’n fanwl ar y cylch gwaith hwnnw. Ond un peth sy’n sicr - ni ddylai’r swm fod yn llai na’r swm presennol am fod S4C eisoes wedi torri costau i’r asgwrn ac ni ellir torri ymhellach heb effeithio ar safonau ac arloesedd. 

Ni all S4C gael ei hystyried gan y gynulleidfa yn eilradd i sianeli gwasanaethau cyhoeddus eraill.  Dylai cynllun busnes y sianel ar gyfer y degawd nesaf dalu sylw penodol i’r newidiadau cyflym yn y dirwedd darlledu a chyfathrebu digidol, ac mae’n hollbwysig bod S4C yn ymateb yn chwim i’r ymraniad yn y gynulleidfa (audience fragmentation) a rhoi ffocws ar dargedu’r rhychwant yn eu cynulleidfaoedd.

Mae casglu cyllid S4C drwy’r ffi drwydded ar hyn o bryd yn sefyllfa dderbyniol ond ni ddylai rheolaeth o’r swm yma fod yn benderfyniad i’r BBC yn unig. Dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ynghyd â Llywodraeth Cymru benderfynu yn dilyn ymgynghori manwl gyda S4C.  Mae angen hefyd i adran DCMS Llywodraeth y DU gyfrannu at y costau cyfundrefnol os yw’n parhau i fod â chyfrifoldeb dros S4C a darlledu yn y Gymraeg.

Dylai unrhyw gytundeb ariannu barhau am hyd siarter y BBC ar sail fformiwla sy’n sicrhau cyfran gyson a theg o incwm y ffi drwydded. Byddai hynny’n rhoi gwelededd a sefydlogrwydd i gynllunio ac arloesi ar gyfer y dyfodol.  

 

Dylai S4C fod yn rhydd i gasglu refeniw mewn unrhyw ffordd sy’n briodol i ddarlledwr cyhoeddus i gynyddu’r incwm cyhoeddus, yn yr un modd â Channel 4, er mwyn ariannu cyfleoedd newydd creadigol.  

Pa gylch gwaith statudol y dylai S4C ei gael? A yw ei gylch gwaith cyfredol yn addas ar gyfer darlledwr cyfoes? Os nad, sut y dylid ei newid? Sut ddylai'r cylch gorchwyl adlewyrchu swyddogaeth ddigidol darlledwyr modern?

Mae’n ymddangos bod pawb yn gytûn bod cylch gwaith presennol S4C yn anaddas ar gyfer y cyfnod digidol hwn. Fe’i lluniwyd i ymateb i sefyllfa cyn-ddigidol dros 30 mlynedd yn ôl.  

Mae’n hanfodol fod y cylch gorchwyl yn adlewyrchu arferion gwylio a chyfathrebu’r oes ddigidol, ac yn ddigon hyblyg i addasu’n gyflym wrth i dueddiadau a thechnoleg newid dros y degawd nesaf.  Dywed James Purnell taw dyma oes aur y defnyddwyr, gyda refeniw Netflix wedi treblu mewn pum mlynedd a’i  gyllideb cynnwys yn fwy na holl incwm y BBC.  Hefyd, mae 350,000 o linynnau podcast ar gael ar iTunes, sy’n cyfateb i 13 miliwn o benodau unigol. Mwy na allech wrando arnyn nhw mewn hanner can einioes! 

Dylai S4C fod mor rhydd i arloesi yn ei weithgareddau ag unrhyw ddarlledwr cyhoeddus arall yn y DU ac ymestyn cyrhaeddiad y cynnwys dros ffiniau daearyddol a llwyfannau dosbarthu. Ond dylai hefyd ymfalchio yn y cynnwys sydd ar y sianel draddodiadol gan roi hyblygrwydd i’r defnyddiwr i wylio ar alw, neu ar amser penodedig. Mae’r BBC a Channel 4 yn ymestyn eu dulliau dosbarthu i dargedu cynulleidfaoedd penodol – y BBC â 25 o lwyfannau dosbarthu digidol a Channel 4 â 15.  Rhaid i gylch gorchwyl S4C ei ganiatáu i fabwysiadu strategaethau tebyg mewn cyfnod o ornest i ddenu gwylwyr.

Dylai’r cylch gwaith hefyd ganiatau S4C i wneud y gorau o’r posibiliadau masnachol er mwyn cynyddu refeniw i alluogi arloesedd a menter yn y byd digidol.

Pa strwythurau y dylai S4C eu cael ar gyfer llywodraethiant ac atebolrwydd? Er enghraifft, a ddylid datganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru?

 

Yn amlwg, mae’n rhaid i S4C fod yn atebol i’r corff sydd yn ei ariannu.  O ran ei weithredoedd a’i gylch gwaith fel darlledwr, dylai S4C fod yn atebol drwy’r rheoleiddiwr, Ofcom, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  

Fel cynhyrchwyr yr ydym yn croesawu'r eglurder a chysondeb a ddaw o ddefnyddio canllawiau cynhyrchu Ofcom i bob darlledwr ac mae'n fanteisiol i'r cynhyrchydd i gael un rheoleiddiwr cyffredin. Credwn y byddai'n fanteisiol i S4C gael ei reoleiddio o fewn yr un gyfundrefn. 

Un posibilrwydd yw i lywodraethiant S4C fod yn debycach i sianeli eraill sy’n cael eu rheoleiddio gan Ofcom gyda Bwrdd effeithiol sy’n cynnwys swyddogion gweithredol a dewisiadau anweithredol.  Wrth ddewis aelodau’r bwrdd, dylid cael mewnbwn cyfartal gan Lywodraethau Cymru a’r DU a dylai Ofcom fod yn rhan o’r broses apwyntio. Mae tryloywder yn bwysig ac fe ellid ystyried penodi cynrychiolydd o blith y cynhyrchwyr annibynnol yn ogystal â chynrychiolwyr arbenigol o feysydd eraill yn gyfarwyddwyr anweithredol.

Tra bod cyllid S4C yn dod o ffioedd trwydded ledled y DU, rhaid i’r atebolrwydd darlledu fod o fewn yr un gyfundrefn. Os bydd newid ym mherthynas wleidyddol Cymru a San Steffan, yn amlwg bydd angen ail-ystyried hyn.

Ond mae gan S4C gylch gwaith ychwanegol i’w gyflawni gyda’r cyfrifoldeb at yr iaith Gymraeg a strategaeth Llywodraeth Cymru. Yn hynny o beth mae’r atebolrwydd i Gynulliad Cymru.   

Sut berthynas y dylai S4C ei chael â'r BBC?

Rydym o’r farn y dylai’r berthynas rhwng S4C â’r BBC fod yn un hyd fraich rhwng dau ddarlledwr cyhoeddus sydd yn seiliedig ar bartneriaeth. Bydd angen cytuno ar Femorandwm o Ddealltwriaeth newydd i ofalu am gyflenwad rhaglenni BBC Cymru i wasanaethau S4C i adlewyrchu’r gylch gwaith ehangach fydd yn cael ei drefnu.  Mae angen cytundeb ar faterion digidol hefyd.  Ni ddylai’r prif gytundeb ariannu o’r ffi drwydded fod yn rhan o’r ddealltwriaeth honno. 

Mae cyfle i symud ymlaen gyda mwy o gyd-gynhyrchu rhwng S4C a’r BBC (yn ogystal ag ITV a darlledwyr eraill) fydd yn codi safonau cynhyrchu ar sgrin a chaniatáu’r arian i fynd ymhellach.  Hefyd, gall fod mwy o gydweithio wrth i’r ddau ddarlledwr ddatblygu technolegau newydd, ac wrth negydu hawliau angenrheidiol (gan gynnwys, er enghraifft, hawliau darlledu chwaraeon).  Yn y bôn yr un yw heriau’r darlledwyr cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf ac am fod y ddau yn parchu annibyniaeth olygyddol ei gilydd, mae cydweithio’n bwysig i’r ddau er lles pobl Cymru a’r iaith Gymraeg.

Gwelededd S4C: gan gynnwys materion megis amlygrwydd S4C ar y ddewislen deledu  electronig ac ar setiau teledu clyfar.

Mae angen, trwy ddeddf, gwarchod gwelededd i lwyfannau darlledwyr cyhoeddus y Deyrnas Unedig ar yr EPG ar sail yr egwyddor fod angen i bawb allu cyrraedd y cynnwys yn hawdd mewn cyfnod o newidiadau digidol. 

Mae’n bwysig fod S4C ei hun yn ei gylch gwaith yn cael y rhyddid i ddatblygu dulliau digidol o hyrwyddo ei hunan er mwyn sicrhau’r gwelededd amlycaf posibl ar y gwahanol lwyfannau ac ar setiau teledu clyfar, fel mae sianeli trwyddedig eraill yn ei wneud yn barod.